Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022

 

Pwynt Craffu Technegol 1: Diolchwn i’r Pwyllgor am dynnu ein sylw at hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt a godwyd ond yn parhau o’r farn bod ystyr paragraff (a)” yng nghyd-destun rheoliad 2(2)(a) (a rheoliad 6(3) o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) 2022) yn glir. O ganlyniad, nid ystyriwn fod y gwall yn creu amwysedd nac amheuaeth o ran ei ystyr na’i fwriad.